Dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae yn siop Awen Teifi

Croesawu dysgwyr yr ardal i Awen Teifi

Richard Vale
gan Richard Vale

Fe ddaeth rhyw 30 o ddysgwyr a siaradwyr newydd o ardal Aberteifi at ei gilydd yn siop Awen Teifi ar nos Fawrth 15 Hydref i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae yng nghwmni’r Maer, y Cynghorydd Olwen Davies, Rhodri Francis (Cered) a Marged a Terwyn Tomos.

Derbyniodd pob dysgwr gopi o Hanes Aberteifi, llyfr dwyieithog a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn rhodd gan Geraint.

Rydyn ni mor lwcus o gael siop fel Awen Teifi, busnes sydd wir wrth galon y gymuned, ac mae Geraint, Siân a’r staff i gyd yn hynod o groesawgar a chefnogol i bawb sy’n dysgu Cymraeg.

Braf iawn yw gallu dweud bod mwy o bobl yn mynd ati i ddysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi nag erioed, ac mae rhai o’r dosbarthiadau yn orlawn.

Dweud eich dweud