Dros 100 yn cymryd rhan yn Helfa Drysor Llechryd

Noson llawn sbort

Cered Menter Iaith Ceredigion

Cynhaliwyd Helfa Drysor llwyddiannus iawn yn Llechryd ar nos Iau, 21 Gorffennaf, gyda 100 o bobl yn bresennol a 21 tîm yn cymryd rhan.

Trefnwyd hyn ar y cyd rhwng Cered (Menter Iaith Ceredigion), Ysgol Llechryd gyda chydweithrediad Neuadd y Cwrwgl, a Siop Sglodion y Cwrwgl.

“Roedd yn ffantastig gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb a braf oedd gweld pobl ddi-gymraeg a’r Cymry Cymraeg yn dod at ei gilydd i fwynhau gweithgaredd i’r gymuned gyfan. Mae Bore Coffi Cymraeg yn cael ei gynnal yn gyson yn Neuadd y Cwrwgl, ac roedd yr aelodau yn awyddus iawn  i weld gweithgareddau teuluol yn cael eu cynnal yn Llechryd,” meddai Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered.

“Fel Cadeirydd Ysgol Gymunedol Llechryd, roeddwn mor falch i weld nifer yn mynychu’r Helfa Drysor. Diolch enfawr i drefnwyr y digwyddiad. Edrychwn ymlaen at y digwyddiad nesaf” ychwanegodd y Cynghorydd Cymuned lleol, Nicky Redmond a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llechryd

Dywedodd Cynghorydd Sir yr ardal, Amanda Edwards, un o drefnwyr y noson:

“Mae wedi bod yn grêt cael cydweithio gyda Cered i hyrwyddo’r Gymraeg. Roedd yn braf gweld teuluoedd lleol yn cymryd rhan yn yr Helfa Drysor”

Un arall oedd yn bresennol oedd Stan Short a ddywedodd: “Roedd yn noson mor dda ac roedd yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd. Roedd pawb wedi mwynhau’r helfa drysor yn fawr iawn”

Estynnir diolch arbennig i Melanie Williams am helpu gyda’r trefniadau.

Mae Cered yn awyddus i gynnal digwyddiad arall yn yr hydref. Am fwy o wybodaeth am y bore coffi Cymraeg yn Llechryd, cysylltwch â Cered ar cered@ceredigion.gov.uk