gan
Aled Evans
Fe wnaeth Andrew Teilo ymweld ag Awen Teifi dydd Sadwrn i hyrwyddo ei lyfr newydd, Pryfed Undydd.
Mae’r actor, sydd fwyaf adnabyddus fel un o brif gymeriadau Pobol y Cwm ers deng mlynedd ar hugain, hefyd yn ddarllenwr obsesiynol, yn hanesydd, yn gerddor, yn ddarlunydd, ac mae ganddo radd mewn ysgrifennu creadigol.
Dyma ei gyfrol ffuglen gyntaf, cyfres o straeon byrion sydd, yn ôl y cyhoeddwr, Y Lolfa, yn storïau sydd yn pendilio rhwng yr ysgafn a’r dwys, y real a’r goruwchnaturiol a’r metaffisegol.