Cowbois Rhos Botwnnog yn ôl yn Y Seler

Pedair mlynedd yn hwyrach na’r disgwyl, roedd hi’n noson gwerth aros amdani.

gan Aled Evans

Nos Sadwrn fe ’na’th un o gewri’r Sîn Roc Gymraeg ddod yn ôl i Aberteifi, pedair blynedd ers gohirio’r gig gwreiddiol oherwydd yr argyfwng Covid.

Cafwyd gwledd o gerddoriaeth, â’r Seler yn llawn, wrth i’r ‘Cowbois’ chwarae’r hen glasuron a chaneuon newydd, gan ddangos i bawb pam mai nhw yw un o fandie gore Cymru.