Parêd Llysernau Anferth Aberteifi 

Aled Evans sy’n dogfennu gorymdaith flynyddol Theatr Byd Bach

gan Aled Evans

Nos Wener cafodd strydoedd Aberteifi eu goleuo gan orymdaith llusernau anferth a gyflwynwyd gan Theatr Byd Bach. Mae cymhlethdod ac amrywiaeth y llusernau yn cynyddu bob blwyddyn. Eleni gwelwyd eliffant, ceffyl ungorn, mwnci, ​​cŵn a physgod ymhlith nifer o anifeiliaid eraill. Mae wedi datblygu i fod yn noson na ellir ei cholli yn Aberteifi. Dwi’n edrych ‘mla’n i’r flwyddyn nesa yn barod!