Cefnogi Banciau Bwyd

Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi rhoi cyfraniad ariannol at achos teilwng

gan Clive Davies
IMG_5826-1
IMG-20231208-WA0006-1

Yn ystod y mis diwethaf mae holl gynghorwyr Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi rhoi cyfraniad ariannol at achos teilwng iawn – sef banciau bwyd y sir.

Yr wythnos hon, fel y maent wedi’i wneud mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrannodd holl gynghorwyr Plaid Cymru Ceredigion i achos teilwng iawn, sef banciau bwyd y sir. Cyflwynwyd sieciau ym Mhenparcau, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi a Llandysul gan roi cyfanswm £3,250 i gefnogi gwaith anhygoel banciau bwyd Ceredigion.

“Rydym yn ymdrechu i wneud ein gorau fel y Blaid mewn grym i helpu’r rhai sydd mewn angen yng Ngheredigion ac fel cynghorwyr lleol rydym yn cefnogi mentrau fel banciau bwyd a mannau cynnes. Unwaith eto eleni mae cynnydd wedi bod yn yr angen am gymorth gan fanciau bwyd yng Ngheredigion – rhywbeth nad oes yr un ohonom am ei weld.

Mae’n annerbyniol bod cymaint o drigolion y Sir yn wynebu tlodi yn yr unfed ganrif ar hugain oherwydd toriadau gwariant cyhoeddus cyson o Lundain, cyflogau isel a costau byw uchel. Byddwn yn hoffi iddo fod yn gwbwl wahanol.”  Bryan G Davies, arweinydd Grŵp Plaid Cymru Ceredigion.

Cyflwynwyd siec o £650 ym Mhenparcau heddiw gan y Cynghorwyr Amanda Edwards, Chris James, Clive Davies a Gethin Davies.

Dywedodd Dawn Scarisbrick, cydlynydd Banc Bwyd Aberteifi, “Diolch yn fawr am eich cyfraniad caredig. Mae’r galw am y banc bwyd wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda’r argyfwng costau byw parhaus. Rydym wedi gweld cynnydd cyffredinol o 36% mewn angen pan cymharu’r 2 flynedd ddiwethaf.”

Mae pob Banc Bwyd yn y Sir yn croesawu cyfraniadau ariannol neu bwydydd o bob math, ac yn barod iawn i groesawu unrhyw un sydd am wirfoddoli mewn unrhyw fodd.

Y mae croeso i unrhyw un sy’n teimlo’r straen ariannol i fynd at eu Banc Bwyd lleol i gael help. Mae’r gwirfoddolwyr yn groesawus iawn ac yn hollol barod i helpu.

Dyma fwy o fanylion ynglyn â’r banc bwyd agosa atoch chi, sut i gael help neu sut i gyfrannu.