Mae prosiect newydd sy’n cael ei gyflwyno gan Antur Cymru Enterprise yn Aberteifi wedi dechrau ymgysylltu â’r busnesau ar draws De Ceredigion, gan gynnwys rhai ar y stryd fawr yn Aberteifi.
Mae rhai eisoes wedi manteisio ar yr arbenigedd a’r cyngor a gynigir gan y tîm ymgynghorol yn yr uned Cefnogi Busnes Lleol ym Mhendre.
Bydd y gofod yn cael ei agor yn swyddogol tua diwedd Ionawr, ac yn y cyfnod cyn hyn, mae Antur Cymru yn cymryd ceisiadau ac yn trafod gydag entrepreneuriaid y cyfle i ‘sefydlu siop’ o fewn yr uned a chael manteisio ar arbenigedd y tim ar bethau. fel cynlluniau busnes, prisio a marchnata. Eisoes mae 4 masnachwr newydd yno sef Tonnau Glas , Under the Laurel, Amaze Me Three D a Funky Fairy.
Yn gyffredinol, unwaith y bydd yr uned wedi’i agor, bydd y gofod yn wych i’r rhai sydd am ddechrau busnes , bosib bydd rhai yn magu’r gallu a’r hyder i symud i’r stryd fawr neu efallai un or farchnadau mewnol. Lle gwych i gael cymorth i ddechrau busnes.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU trwy Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’i strategaeth Economaidd i roi hwb a chefnogi twf a thwf busnesau bach.
Dywedodd Cyngorhydd Clive Davies, “Rwy’n edrych ymlaen at weld pa amrywiaeth o fusnesau fydd yn gwneud defnydd o’r wasanaeth hwn a/neu sefydlu o fewn yr uned unwaith mae’n agor yn Ionawr.”