Cymorth Busnes Lleol

Gofod a chymorth busnes newydd yn Aberteifi

gan Clive Davies

Mae prosiect newydd sy’n cael ei gyflwyno gan Antur Cymru Enterprise yn Aberteifi wedi dechrau ymgysylltu â’r busnesau ar draws De Ceredigion, gan gynnwys rhai ar y stryd fawr yn Aberteifi.

Mae rhai eisoes wedi manteisio ar yr arbenigedd a’r cyngor a gynigir gan y tîm ymgynghorol yn yr uned Cefnogi Busnes Lleol ym Mhendre.

Bydd y gofod yn cael ei agor yn swyddogol tua diwedd Ionawr, ac yn y cyfnod cyn hyn, mae Antur Cymru yn cymryd ceisiadau ac yn trafod gydag entrepreneuriaid y cyfle i ‘sefydlu siop’ o fewn yr uned a chael manteisio ar arbenigedd y tim ar bethau. fel cynlluniau busnes, prisio a marchnata. Eisoes mae 4 masnachwr newydd yno sef  Tonnau Glas , Under the Laurel, Amaze Me Three D a Funky Fairy.

Yn gyffredinol, unwaith y bydd yr uned wedi’i agor, bydd y gofod yn wych i’r rhai sydd am ddechrau busnes , bosib bydd rhai yn magu’r gallu a’r hyder i symud i’r stryd fawr neu efallai un or farchnadau mewnol. Lle gwych i gael cymorth i ddechrau busnes.

Ariennir y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU trwy Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’i strategaeth Economaidd i roi hwb a chefnogi twf a thwf busnesau bach.

Dywedodd Cyngorhydd Clive Davies, “Rwy’n edrych ymlaen at weld pa amrywiaeth o fusnesau fydd yn gwneud defnydd o’r wasanaeth hwn a/neu sefydlu o fewn yr uned unwaith mae’n agor yn Ionawr.”