Wythnos diwethaf fe ail-lansiwyd Hapus i Siarad yn Aberteifi, syniad a ddychmygwyd yn gyntaf rai blynyddoedd yn ôl gan Anne Cakebread, curadur galeri Canfas yn Aberteifi, ac artist.
Pwrpas Hapus i Siarad yw helpu i roi’r defnydd o’r Gymraeg gan y rhai sy’n dysgu ac yn ei ddefnyddio mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd ar waith. Bydd siopau a darparwyr gwasanaethau sydd yn cymryd rhan ledled Aberteifi yn arddangos poster bach yn dynodi ‘Hapus i Siarad’ fel y gwelir yn y lluniau.
Dechreuwyd yr ymgyrch gan y Cyng Clive Davies yn 2023, ac ar ôl siarad gydag Anne a CERED, tîm cefnogi a hybu’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion, teimlodd bod angen ailymweld â’r cynllun hwn a chefnogi’r defnydd o’r iaith.
“Fel tref mae gennym bresenoldeb cryf yn y Gymraeg ac mae’n bwynt gwerthu economaidd arall i’r siopau ac i’r dref,” medd Clive.
“Mae enghreifftiau o ddysgwyr Cymraeg o Gaerdydd yn aros dros benwythnos yn ardal Aberteifi dim ond i ymarfer yr hyn maen nhw wedi dysgu gartref. Rhoddir cardiau i’r rhai sy’n mynychu dosbarthiadau i loywi eu Cymraeg a thrwy sgwrsio neu brynu gan fusnes gyda’r poster, trwy’r cerdyn wedi’i lofnodi, cânt eu cynnwys mewn raffl fawr.”
Dywedodd Siriol Teifi, Swyddog Datblygu CERED – Menter Iaith Ceredigion, a gynorthwyodd yn yr ail-lansio yn Aberteifi “Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddarganfod cyfleoedd i siarad ac ymarfer eu Cymraeg. Mae hefyd yn ffordd o weld pa mor fyw yw’r Gymraeg yn Aberteifi.”
Diolch i Anne o Canfas, tîm CERED, Cyng Clive Davies, Cyng Catrin Miles a Mr Graham Evans a’r holl fusnesau am gefnogi’r fenter hon.
Felly, cadwch olwg am y posteri a dechreuwch pob sgwrs yn Gymraeg.