Aberteifi yn dod ynghyd i orymdeithio

Ysgolion lleol, mudiadau, a chyngor y dref, yn dod ynghyd.

gan Clive Davies

Cafwyd bore arbennig ar Dydd Gŵyl Dewi mewn gorymdeithio trwy Aberteifi. Daeth blant o ysgolion Aberteifi, Cenarth, Llechryd, Aberporth a Phenparc at ei gilydd ynghyd â Chadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Maer y dre a chynrhychiolwyr o’r Cyngor Dre.

Diolch yn benodol i Theatr Byd Bychan, Castell Aberteifi, Clerc y Dref, Cered (corff Menter Iaith Ceredigion), y gwirfoddolwyr, yr athrawon a’r plant.

Gafodd Y Cynghorydd Clive Davies yr anrhydedd i neud datgan o’r ty yn Castell Aberteifi.

Cyn gorymdeithio, y Cynghorydd Clive Davies bu’n annerch y gymuned, gan atgoffa pawb i “wneud y pethau bychain” ar ddiwrnod dathlu ein Nawddsant.