Cawl, côr, ac ennillydd Cân i Gymru…

Noson Gawl Lwyddiannus yn Llandudoch

gan Terwyn Tomos
Côr Pam Lai yn disgwyl am gawl
IMG_9501
IMG_9500
IMG_9502

Bu Noson Gawl flynyddol Eisteddfod Llandudoch yn llwyddiant ysgubol Nos Sadwrn, Mawrth 2il.
Cafodd y neuadd lawn eu bwydo â chawl a phice bach a baratowyd yn ystod y dydd gan aelodau’r pwyllgor.
Côr Pam Lai oedd yn difyrru, gan dderbyn cymeradwyaeth wresog y gynulleidfa  – a chafwyd bonws arbennig: Sara Davies, arweinydd y côr, yn canu’r gân a ddaeth â’r wobr gyntaf iddi yn ‘Cân i Gymru’.

Noson dda, felly, i fraenaru’r tir ar gyfer Eisteddfod Llandudoch ar Mai 18fed