Cinio’r Tair Gymdeithas

Yr actores Rhian Morgan yn anerch yng Nghlwb Golff Gwbert

gan Clive Davies

Swyddogion o’r dair gymdeithas gyda’i gilydd, Cylch Cinio Teifi, Merched y Wawr Cylch Teifi, a Cymdeithas Cymrodorion Aberteifi a’r Cylch.

Swyddogion o’r Cymrodorion yn cyflwyno siec o £100 i Rhian i’w basio ymlaen i elusen Marie Curie.

Cynhaliwyd Cinio’r Tair Gymdeithas yn y Clwb Golff, Gwbert ar noson Gwyl Ddewi, wedi ei drefnu gan Gymdeithas Cymrodorion Aberteifi a’r Cylch.

Y siaradwraig oedd yr actores, a’r enillydd BAFTA Cymru, Rhian Morgan, Llandeilo, ac fe gafwyd anerchiad diddorol ganddi yn darlunio ei chyfnod ar yr opera sebon Pobol y Cwm, a nifer o weithiau eraill y bu yn rhan ohonynt.

Dewisodd Rhian i gyfrannu ei thâl i’r elusen Marie Curie, ac fe gyflwynwyd siec iddi yn ystod y ginio.