Gŵyl Aeaf newydd i Aberteifi.

Cyhoeddi parêd llusernau enfawr i Aberteifi ynghyd â chynlluniau ar gyfer gŵyl Aeaf newydd.

gan Clive Davies

Cyhoeddodd Theatr Byd Bach y cynhelir Parêd Llusernau Enfawr Aberteifi ar 6 Rhagfyr eleni yn dilyn adfywiad hynod lwyddiannus y digwyddiad yn y dref yn 2023.

Bydd y Parêd Enfawr yn ddigwyddiad mawr gyda Gŵyl y Goleuni wedi’’i threfnu gan y cwmni theatr o Aberteifi.

Dywedodd Ann Shrosbree, Cyfarwyddwr theatr Byd Bach:

“Rydyn ni’n gwybod fod y Parêd Llusernau Enfawr yn ddathliad cynhyrfus o greadigrwydd ar gyfer y dref ar adeg pan fod nifer o deuluoedd am gymryd rhan mewn digwyddiadau tymhorol. Yn 2016 fe wnaethon ni lansio’r parêd cyntaf gyda nawdd Croeso Cymru a chefnogaeth Partneriaeth Canol Tref Aberteifi. Rydym ni wedi parhau i dyfu’r digwyddiad gyda brwdfrydedd ar ran ein cymuned, ac rydym ni’n gobeithio adeiladu ar waith caled pawb i wella dathliadau Aberteifi fwy fyth gyda Gŵyl y Goleuni i gefnogi’r economi leol.”

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cefnogaeth Cynnal y Cardi drwy Gyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r digwyddiad o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy fenter Codi’r Gwastad. Bydd yn cynnwys ymwneud â busnesau lleol, caffis, bwytai, canolfannau a bariau fydd yn gwneud Aberteifi’n fan cynhyrfus i ymweld ag ef heb os dros y gaeaf.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio:

“Yn ôl yn 2016, cefais yr anrhydedd o fod yn Faer Aberteifi a chynhaliwyd Gŵyl y Goleuni cyntaf Aberteifi a’i Pharêd Llusernau Enfawr. Dros y blynyddoedd mae hyn wedi datblygu yn ddigwyddiad ar raddfa fawr gyda chefnogaeth gan nifer o gyllidwyr, sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr. Daeth yn atyniad i bobl o ymhellach i ffwrdd a chafodd effaith gadarnhaol ar yr economi manwerthu a lletygarwch lleol ehangach. Erbyn hyn, hyd yn oed gyda blynyddoedd o aflonyddwch y pandemig, rydym wedi gallu dod ag ef yn ôl. Mae gan Aberteifi agwedd greadigol a rhagweithiol gref ac unwaith eto mae Theatr Byd Bychan, gyda’u dawn greadigol, wedi dod â’r rhaglen gyffrous hon ynghyd mewn Gŵyl y Goleuni newydd. Trwy’r cyllid rydyn ni’n ei ddarparu bydd hyn yn cefnogi llwyddiant parhaus Gorymdaith y Llusernau Enfawr yn ogystal â’r digwyddiadau eraill sydd wedi’u cynllunio.”

Er bod Rhagfyr yn teimlo’n bell i ffwrdd, bydd y cynlluniau’n dechrau yn y gwanwyn. Bydd y rhain yn cynnwys trefnu trafnidiaeth gyhoeddus i Aberteifi o ardaloedd cyfagos i’r ŵyl aeaf a gweithio gyda sefydliadau lleol i hyrwyddo’r digwyddiadau Nadolig ar y cyd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Elaine Evans:

“Rydym ni wedi’n cyffroi i gael dyddiad yn y dyddiadur ar gyfer y parêd diolch i gefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion o Theatr Byd Bach. Mae’n ddigwyddiad hudolus ac yn un sy’n dod â llawenydd mawr i drigolion, ac yn enwedig i deulueodd.”

Cyhoeddir manylion rhaglen Gŵyl y Goleuni yn yr hydref a hyd hynny, a wnewch chi gadw’r dyddiad! Ewch i smallworld.org.uk am fwy o fanylion.