Eisteddfod lwyddiannus yn Llandudoch

Cafwyd diwrnod prysur a difyr yn Neuadd Llandudoch Ddydd sadwrn, Mai 18fed.

gan Terwyn Tomos

Bardd y Gadair, Richard Lloyd Jones o Bethel, Caernarfon

Enillydd Tlws Llenyddol yr Ifanc - Erin Trysor, o ardal Aberystwyth

Eisteddfod fywiog fu Eisteddfod Llandudoch eleni, gyda thri o weithgareddau yn ystod yr wythnos.

Yn gyntaf, cafwyd noson i wobrwyo cystadlaethau llên a chelf y plant yn y Cartws, Llandudoch. Glenda Jones, Aberteifi oedd yn pwyso a mesur y llên, a daeth yr arlunydd lleol, Anne Cakebread, i fwrw golwg dros y gwaith celf. Rhoddodd y ddau feirniad eu sylwadau ar y gwaith, a dosbarthwyd y gwobrau a’r tystysgrifau i’r rhai a oedd yn bresennol. Braf oedd clywed canmoliaeth y beirniaid i safon cyffredinol y gwaith, gan longyfarch pob cystadleuydd.

Yr ail noson oedd y beirniadaethau llên a Thalwrn y Beirdd yng ngofal Emyr Davies, Aberporth a Ceri Wyn Jones, Aberteifi.  Yn Ysgol Gynradd Llandudoch, bu’r ddau wrthi’n ddiwyd a bywiog am tua dwy awr, cyn i bawb fwynhau cwpaned a lluniaeth ysgafn a baratowyd gan y pwyllgor eisteddfod. Timau lleol oedd yn y Talwrn, sef Tîm Beca, a dau dîm a ffurfiwyd o ddosbarth cynganeddu Ceri Wyn Jones yn Aberteifi – Tîm y Merched a Thîm Bois y San.  Wedi gornest ddifyr, Bois y Sân enillodd.

Bu nifer dda o gystadleuwyr yn rhoi cynnig ar y cystadlaethau llenyddol, a chanmolodd Emyr Davies y safon drwyddi draw, gan roi canmoliaeth uchel mewn sawl cystadleuaeth.

Ymlaen wedyn at y Dydd Sadwrn, a’r eisteddfod ei hun. Arfon Griffiths o Lanuwchllyn nawr, ond a fagwyd yn Llandudoch, oedd llywydd y dydd eleni. Nid yn unig y cawsom araith ddiddorol ganddo, yn sôn rhyw ychydig am ei atgofion o dyfu lan yn Llan’doch, ond  ef hefyd a ganodd gân y cadeirio, gan ei fod bellach yn denor o fri ac yn aelod o’r pedwarawd ‘Tri Gog a Hwntw’ ac o Gôr Godre’r Aran. Gan nad oedd llawer o drigolion Llandudoch wedi ei glywed yn canu o’r blaen, barnodd pwyllgor yr eisteddfod y byddai hyn yn gyfle da iddo ganu ar lwyfan ei blentyndod.

Y beirniaid cerdd oedd Pat Jones, Chwilog ( gynt o Gastell Newydd Emlyn) a Meinir Richards, Llanddarog ; Geraint Hughes, Peniel fu’n gyfrifol am y llefaru. Geraint Wilson-Price, o Dysgu Cymraeg Gwent, a fu’n pwyso a mesur ymdrechion llenyddol y dysgwyr.

Roedd y ddau gyfeilydd â gwreiddiau dwfn iawn yn yr ardal, sef Angharad James o ardal Llantwd, ac Iwan Teifion Davies, sy’n enedigol o Landudoch, ond bellach yn byw yng Nghaerfyrddin.  Gwerthfawrogwyd eu gallu a’u gwaith caled gydol y dydd, gan berfformwyr a chynulleidfa fel ei gilydd.

Bu’r Eisteddfod leol yn hynod lwyddiannus, gyda chefnogaeth gref o ran safon a niferoedd oddi wrth Ysgol Llandudoch. Braf oedd gweld nifer sylweddol o blant yr ysgol yn cystadlu yn unigol ac mewn partïon, ac fe gawsant gynulleidfa gref i wrando arnynt, gan i’w rhieni droi allan i lanw’r neuadd yn sesiwn gyntaf y prynhawn. Mae’r ysgol a’i thîm o athrawon a staff yn haeddu eu llongyfarch nid yn unig ar y nifer uchel o blant a ddaeth i’r llwyfan, ond ar safon ‘caboledig’ eu perfformiadau – dyna’r gair a ddefnyddiodd un o’r beirniaid.

Bardd y Gadair eleni oedd Richard Lloyd Jones o Fethel, ger Caernarfon am awdl fer ar y testun ‘Cysgodion’. Fe ddaeth i’r brig gyda chanmoliaeth uchel mewn cystadleuaeth gref oddi wrth 12 o feirdd eraill. Cyn-athro yw’r bardd, a fu ‘n gweithio yng Nghaerdydd ac Ynys Môn.  Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Llanrug, ac wedi ennill nifer o gadeiriau – ond hon oedd yn gyntaf yn Sir Benfro. Mae ei lygaid yn awr ar y tair eisteddfod arall!

Enillydd Tlws Llenyddiaeth yr ifanc oedd Erin Trysor, o ardal Aberystwyth. Roedd yn un o naw a gystadlodd, gyda phob un bron yn deilwng o ennill y wobr. Ond roedd hiwmor a bwrlwm ysgrifennu Erin wedi plesio’r beirniad, Emyr Davies, a’i dramodig hi ddaeth i’r brig. Nid hon yw ei buddugoliaeth gyntaf gan iddi ddod i’r brig yn yr Urdd ac yng nghystadlaethau barddonol Barddas yn y gorffennol.