Dathlu Diwrnod Sant Dogfael

Mehefin 14eg – cofio sylfaenydd Llandudoch

gan Terwyn Tomos
IMG_0084

Ar fore Dydd Gwener, Mehefin 14eg, daeth plant Ysgol Llandudoch at gerflun Sant Dogfael ger yr abaty i ddathlu diwrnod nawddsant y pentref. Y gymdeithas hanes leol, Abaty 900, sy’n trefnu’r digwyddiad hwn yn flynyddol, ac mae e wedi tyfu’n draddodiad lleol.
Fel bob, canodd y plant gân arbennig a ysgrifennwyd gan un o gyn-brifathrawon yr ysgol, Jon Meirion Jones,  ac fe sgwrsiodd y Parch Rhosier Morgan gyda’r plant am hanes y sant, gan orffen gyda gair o weddi.