Cerddwyr Cylch Teifi

Rhaglen o deithiau Cerddwyr Cylch Teifi

gan Philippa Gibson
Cerddwyr-Dinas

Cerddwyr Cylch Teifi ar ddechrau taith o Ddinas i Aber Bach

Cerddwyr Cylch Teifi

Grŵp Cerdded Cymraeg yn ardal Aberteifi. Croeso cynnes i ddysgwyr sy am ymarfer eu Cymraeg mewn grŵp cyfeillgar.

Bydd Cerddwyr Cylch Teifi yn dechrau ein tymor newydd ym mis Hydref a bydd croeso i bawb i ymuno â ni. Y Gymraeg yw iaith y teithiau ond mae croeso i ddysgwyr o bob safon sy’n barod i beidio troi sgyrsiau’n Saesneg.

Bydd y teithiau misol ar ddyddiau Sadwrn yn dechrau am 10.30yb. ac fel arfer yn gorffen erbyn 12:30 neu 1.00. Weithiau byddwn yn trefnu man i gymdeithasu ar ôl cerdded i’r rhai sy’n dymuno. Dyma’r rhestr o deithiau’r tymor hwn.

  • Hydref 5 – Cilgerran – Ali Evans
  • Tachwedd 9 – Drefach Felindre – Dafydd Dafis
  • Rhagfyr 14 – Trefdraeth – Hedd Ladd Lewis
  • Ionawr 11 – Glog – Hefin a Linda Harris
  • Chwefror 8 – Llandudoch – Terwyn Tomos
  • Mawrth 8 – Nanhyfer – Siân Bowen
  • Ebrill 12 – Llwybr Barddoniaeth Blaenannerch / Aberporth – Gareth Wyn Jones
  • Mai 10 – Parc-llyn tua’r gorllewin ar lwybr yr arfordir – Howard Williams
  • Mehefin 14 – y Preselau – Hefin Wyn

Sylwch fod y rhan fwyaf ar yr ail ddydd Sadwrn yn y mis, ar wahân o’r daith gyntaf.

Gan fod Covid yn dal i fod o gwmpas, bob tro rydym yn gofyn i’r Cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu’r haint, gan beidio â dod ar daith os ydych chi’n hunan-ynysu, neu’n dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Ni fyddwn yn hysbysebu pob taith yn y papurau bro a’r wefan hon. Ond mae croeso ichi gysylltu er mwyn rhoi’ch enw ar y rhestr e-bostio i gael y manylion wythnos ymlaen llaw.

Cysylltwch â Philippa Gibson philippa.gibson@gmail.com   07787 197630