Noson i’w chofio – noson agoriadol Cymdeithas Ceredigion, mis Medi 2024. Daeth tri phrif enillydd adran lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 i gyfarfod cyntaf y tymor y Gymdeithas yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes. Cafwyd trafodaeth ddifyr a dathliad o Gyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Brifwyl, yng nghwmni Carwyn Eckley a Gwynfor Dafydd, enillwyr y Gadair a’r Goron, ac Eurgain Haf, enillydd Y Fedal Ryddiaith. Bu cyfarchion ar ffurf englynion i’r tri gan Idris Reynolds.
Agorwyd y noson gan Barbara Roberts, Llywydd Cymdeithas Ceredigion, a chafodd ei llywio gan y Prifardd Tudur Dylan Jones.
Daeth cynulleidfa o bell ac agos, a’r lle dan ei sang. Ceri Wyn fu’n agor y drafodaeth ar gerddi’r goron, ac wedyn clywyd sgwrs ddifyr a dadlennol rhwng Gillian Jones ac Eurgain Haf am ysgrifennu ac ennill gyda’i chyfrol Y Morfarch Arian. Tro Mererid Hopwood wedyn, i drafod y gyfres o gerddi a enillodd y Gadair gyda Carwyn. Bu Terwyn Tomos hefyd yn sôn am y Delyneg arobryn gan Llion Pryderi Roberts. Wedyn, cawsom i gyd banad a lluniaeth a’r cyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda’r enillwyr a chyda’n gilydd.
Diolch yn fawr i Tudur Dylan am dynnu’r lluniau.
Yn ein cyfarfod nesaf, nos Wener 4ydd o Hydref am 7.30, yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes, byddwn yng nghwmni’r bardd Jo Heyde, a fydd yn cyflwyno ei phamffled cyntaf o gerddi dan yr enw ‘Cân y Croesi’.