Mae newid ar droed yn sîn gerddoriaeth y Gorllewin. Mae’r label recordiau Fflach yn trosi i fod yn Fflach Cymunedol, ac i lansio’r ymgyrch godi arian yn gwahodd Mattoidz yn ôl i Abertieifi, ac yn ôl i’r label.
20 mlynedd ers recordio eu EP cyntaf gyda Fflach, mae’r pedwarawd melodaidd trwm yn dod yn ôl i lansio cyfres o gigs yn Y Seler, un o leoliadau cerddoriaeth byw mwyaf prysur y dref. Bydd y gig yn gyfle i glywed caneuon newydd Mattoidz fydd yn cael eu rhyddhau ar Fflach Cymunedol, i glywed am gynlluniau’r label a’r ymgyrch, ac i glywed un o fandiau diweddaraf Fflach Cymunedol, Lafant, yn eu gig cyntaf yn Aberteifi.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Fflach Cymunedol yn cyhoeddi’r cynlluniau newydd, ac yn gwahodd y gymuned leol a thros Gymru gyfan, i ddod yn rhan o’r prosiect newydd. Bydd mwy o gigiau yn cael eu cyhoeddi yn Aberteifi, a senglau gan enwau cyfarwydd a newydd i’w clywed.
Ffurfiodd Mattoidz yn 2002. Wedi eu hysbrydoli gan fandiau’r gorllewin – DOM, Jess, Cerrig Melys ac Ail Symudiad – aeth y band ymlaen i berfformio gigiau ledled y wlad a rhyddhau tair albym rhwng 2005 a 2013. Cymerodd y band saib wedi hynny i wneud pethau pwysicach ond nawr mae’r creisis canol oed wedi cicio mewn a bellach ac mae’r band nôl yn stiwdio Fflach!
Lafant yw’r triawd Mefin Hughes, Meiddyn Ladd a Sam Howell, y tri yn gyn-aelodau o’r band Gelert. Wedi eu hysbrydoli gan fandiau Britpop y 90au ynghyd â Clapton, The Kinks a’r Monkees a swn y 60au, mae egni ac alawon bachog y band yn mynd i’w gwneud yn fand i’w gwylio dros y flwyddyn nesaf.
Gallwch weld Mattoidz a Lafant yn Y Seler, Aberteifi (Quay Street) ar Hydref y 4ydd, gyda’r drysau’n agor am 7 yr hwyr. Bydd mynediad yn £5 yn unig ar y drws. Gallwch ddilyn gyfryngau cymdeithasol @fflachcymunedol ar instagram, X a facebook.