Cymdeithas Ceredigin

Newyddion am nosweithiau Cymdeithas Ceredigion

gan Philippa Gibson
Jo-Heyde

Jo Heyde

Heyde-noson-Cymdeithad

Jo yn noson Cymdeithas Ceredgion

Carwyn-Graves-2

Carwyn Graves

Cymdeithas Ceredigion

Cafodd Cymdeithas Ceredigion noson i’w chofio yng nghwmni Jo Heyde ddechrau mis Hydref.

Soniodd am y profiadau a’r dylanwadau sy wedi’i harwain i farddoni. Clywsom am ei phlentyndod a’i chariad at ganu’r piano a sut oedd greddfau sensitif a’r gallu i ganolbwyntio’n ddisgybledig (obsesiynol i raddau, yn ôl Jo), yn golygu iddi ymdrochi’n llwyr yn yr ymarfer a chyrraedd safon uchel a mwynhad dwfn. O oedran ifanc roedd wedi gweld ei bod yn bosibl, ac yn bleser, dysgu wrth ei hunan. Trwy berthnasau y dysgodd iaith newydd, sef Eidaleg.

Ar ôl priodi a magu plant, roedd yn chwilio am ddiddordeb newydd. Prynwyd ‘camperfan’ a theithio tipyn gyda’i gŵr, gan gynnwys ymweld â Chymru. Ar eu ffordd adre unwaith, clywodd hi ferch yn siarad Cymraeg a’i mam, a dyna ddechrau ymddiddori yn y Gymraeg a mynd ati i’w dysgu, gyda’r un fath o ymdrochi’n llwyr roedd wedi’i roi i ddysgu canu’r piano a dysgu Eidaleg.

Dysgodd yn gyflym iawn, felly, a’i chlust fain yn sicrhau ei fod yn meistroli’r acen. Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd wrando ar bodlediad Clera, a thrwy hynny dod i ddysgu am y gynghanedd. Nes ymlaen, bu cyfle i ymuno ag Ysgol Farddol Caerfyrddin, a doedd dim troi’n ôl wedyn. Daeth yn aelod o dîm Talwrn Y Derwyddon, yn fardd y mis i Radio Cymru, a daeth i ennill coronau a chadeiriau. Cawsom noson wefreiddiol, felly, gan ryfeddu ar yr hanes ac ar ei doniau (er nad oedd unrhyw fath o ymffrostio ynddi). Bu prynu brwd ar ei phamffled o gerddi wedyn, sef ‘Cân y Croesi’.

Yn ein cyfarfod nesaf nos Wener 1af o Dachwedd, am 7.30pm, daw Carwyn Graves aton ni yng Nghaffi Emlyn, Tanygroes. Mae Carwyn yn awdur, yn arddwr ac yn ieithgi o Gaerfyrddin. Bydd yn siarad am ei lyfr ‘Tir’ a’n tirwedd ddiwylliannol.

Wrth sôn am y llyfr, mae’n dweud, “Yn ein cyfnod modern o bryderon hinsawdd a dadleuon pegynnu ar ddefnydd tir, diet a mwy, mae’n bwysig ein bod yn deall y byd yr ydym ynddo a’r ffyrdd y teithiom i gyrraedd yma. Drwy archwilio pob un o dirweddau allweddol ledled Cymru a chwrdd â’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ffermio ynddynt, mae ‘Tir’ yn cynnig gobaith am ddyfodol gwell; un gyda thirweddau syfrdanol o hardd, bioamrywiol sydd ddeg gwaith yn gyfoethocach o ran bywyd gwyllt nag y maent ar hyn o bryd, ac sy’n dal i fod yn llawn bodau dynol yn gweithio’r tir.”

Bydd croeso cynnes i bawb. (Am ddim i aelodau; £5 am y noson yn unig; £10 am aelodaeth am y flwyddyn).