Gwaith bôn braich

Dod i nabod ein siaradwyr newydd

Richard Vale
gan Richard Vale

Dyma Sally Eaves (yn sefyll yng nghanol y llun) a thîm y merched wrthi’n plygu clawdd ar Fferm Fagwreinion Fawr ger Glanrhyd.

Athrawes Ffrangeg ac Almaeneg oedd Sally cyn ymddeol, ac mae’n byw ar dyddyn yn ardal Trewyddel lle mae’n cadw ieir a defaid. Mae Sally yn dysgu Cymraeg ers sawl blwyddyn ac erbyn hyn mae’n aelod o Glwb Darllen Trewyddel.

Fe ddaeth tîm y merched yn ail, ond yn anffodus dim ond dau dîm oedd yn cystadlu. Er gwaethaf hynny, cafodd pawb ddiwrnod wrth eu boddau a chyfle i roi eu Cymraeg ar waith.

Dweud eich dweud