Cymdeithas Ceredigion

Nosweithiau Carwyn Graves, Cinio Nadolig, Y Plygain, a noson Dathlu Hiwmor

gan Philippa Gibson

Cymdeithas Ceredigion

Yn ein cyfarfod diwethaf, roedd pawb wrth eu boddau yn gwrando’n astud ar gyflwyniad Carwyn Graves am ei lyfr ‘Tir’ a’n tirwedd ddiwylliannol. Bu’n olrhain hanes ein tirwedd, gan ddangos y berthynas agos iawn iawn rhwng Cymry a’r tir, a sut roedd gan bob rhan o’r tir – mynyddoedd, coed, rhos, perllannau a chloddiau – rôl bwysig yn ddiwylliannol ac yn economaidd ym mywyd bob dydd ein cymunedau, a bod hynny wedi hybu bioamrywiaeth a hybu bywyd pobl yng nghefn wlad yn hollol naturiol dros y canrifoedd. Dim ond yn ddiweddar, mae polisïau ac arferion amaethu wedi arwain at golli bioamrywiaeth a cholli pobl o’n ffermydd – a’r ddyw golled yn digwydd law yn llaw â’i gilydd, Ond mae Carwyn yn credu’n gryf ei bod yn bosibl adfer y nifer o bobl sy’n gallu gwneud bywoliaeth wrth ffermio ac adfer bioamrywiaeth ar ein tiroedd, er lles i’r bobl a’r blaned. Addysg a newid polisïau sydd eu hangen. Ac mae Carwyn yn gweithio gyda phrosiect newydd gyffrous i ddechrau’r broses trwy’r elusen Cegin y Bobl https://www.ceginybobl.co.uk/cymraeg . Edrychwch ar eu gwefan i wybod mwy.

Bydd aelodau’r Gymdeithas yn mwynhau cinio Nadolig gydag adloniant gan Erin ac Alaw Tomos yn ein cyfarfod mis Rhagfyr.

Wedyn, nos Sul 12fed mis Ionawr, byddwn yn cynnal Gwasanaeth y Plygain, yng Nghapel Blaenannerch am 7pm. Byddwn yn codi arian i elusen Tir Dewi. Croesawn bawb i ymuno yn y gwasanaeth arbennig hwn, a gofynnwn i bartïon canu gysylltu â Mary Jones maryjones@saqnet.co.uk 01239 810409, neu Carol Davies caroldavies6@aol.com 01559 370291, neu Gwenda Evans gwendaevans257@btinternet.com  01239 654552.

Noson o chwerthin fydd gyda ni ar ddechrau mis Chwefror, gan ddathlu hiwmor Emyr Pen-rhiw a’r diweddar Dai Rees Davies. Emyr Llywelyn, Carol Davies ac Owenna Davies fydd yn cyflwyno detholiad o’u cerddi digri.

Mae croeso i bawb, hen ac ifanc, ac i siaradwyr newydd, ym mhob cyfarfod. Am ragor o fanylion cysylltwch â dbroberts@btinternet.com neu philippa.gibson@gmail.com    07787 197630

Dweud eich dweud