Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Plygain Cymdeithas Ceredigion
Nos Sul 12fed mis Ionawr, byddwn yn cynnal Plygain, yng Nghapel Blaenannerch am 7pm. Bydd casgliad at elusen Tir Dewi. Croesawn bawb i ymuno yn y gwasanaeth hyfryd hwn o garolau traddodiadol digyfeiliant. Bydd yn noson arbennig, gyda phaned o de i ddilyn. Os nad ydych wedi mynychu Plygain o’r blaen, bydd yn brofiad gwefreiddiol. Os ydych yn hen arfer â phlygeiniau, byddwch yn gwybod yn iawn i ddisgwyl noson â naws arbennig. Dewch yn llu. Os hoffech ddod â pharti canu, gofynnwch i chi gysylltu â Mary Jones maryjones@saqnet.co.uk 01239 810409; neu Carol Davies caroldavies6@aol.com 01559 370291; neu Gwenda Evans gwendaevans257@btinternet.com 01239 654552.